Maes gofynnol *

Croeso i Borth Dinasyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rhaid i chi greu cyfrif cyn cyrchu'r wefan yma. Ar ôl i chi greu cyfrif, bydd modd i chi ddefnyddio'r cyfleuster yma er mwyn gwneud cais am le mewn ysgol neu ddarparwr addysg cofrestredig yn RhCT ar gyfer eich plentyn/plant. Os oes cyfrif gyda chi'n barod, rhowch eich manylion mewngofnodi i ychwanegu cais newydd neu i weld neu olygu ceisiadau presennol.

Nodwch, bydd raid i chi ail-gofrestru os oeddech chi wedi creu cyfrif cyn mis Medi 2016.

Does dim modd defnyddio'r cyfleuster yma i gyflwyno cais ar gyfer trosglwyddo disgybl yn ystod y flwyddyn. Cysylltwch â ni.

Does dim modd defnyddio'r cyfleuster yma i wneud cais am le mewn Ysgol Arbennig. Ffoniwch Garfan Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig y Cyngor drwy ffonio 01443 744000.

Does dim modd defnyddio'r cyfleuster yma i wneud cais am le mewn Ysgol Wirfoddol Gymorthedig (Ysgolion Ffydd). Dylai ceisiadau am le yn yr ysgolion yma gael eu cyflwyno i'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys:

• Ysgol Gynradd Aberdâr yr Eglwys yng Nghymru

• Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru

• Ysgol Gynradd y Forwyn Fair Eglwys Gatholig Rhufain

• Ysgol Gynradd y Seintiau Gabriel a Raphael Eglwys Gatholig Rhufain

• Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain

• Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys Gatholig Rhufain

• Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain

• Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru

Er mwyn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel, byddwch chi'n cael eich allgofnodi o'r Porth ar ôl 20 munud o ddiffyg gweithgarwch. Gwnewch yn siwr eich bod chi wedi cyflwyno'r cais.