Er mwyn cyflwyno'ch cais, bydd eisiau i chi dderbyn y telerau ac amodau ar waelod y dudalen. Mae'r polisi cyfan a gwybodaeth am y broses Derbyn Disgyblion, gan gynnwys y meini prawf o ran derbyn disgyblion ac esboniad o'r termau sy'n cael eu defnyddio, ar gael yn y llyfryn, ‘Dechrau'r Ysgol’. Mae'r llyfryn hwn ar gael ym mhob ysgol yn Rhondda Cynon Taf ac ar-lein: www.rctcbc.gov.uk/derbyndisgyblion Os bydd cyfeiriad parhaol y plentyn yn newid ar ôl i chi gyflwyno cais, rhowch wybod i ni, drwy lythyr, cyn gynted ag sy'n bosibl. Mewn achosion ble byddwn ni'n gallu cynnig mwy nag un ysgol, byddwn ni'n cynnig yr ysgol o'ch dewis sydd â'r flaenoriaeth uchaf a thynnu pob cynnig arall yn ôl ar gyfer yr ysgolion hynny sydd â llai o flaenoriaeth. Os fyddwn ni ddim yn gallu cynnig lle mewn unrhyw un o'r ysgolion o'ch dewis, bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa am gyngor. Os fyddwn ni ddim yn cynnig lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis, bydd hawl gennych chi i gyflwyno apêl i banel annibynnol (ac eithrio dosbarthiadau meithrin, lle does dim proses apelio ar gael). Os dydy'ch plentyn chi ddim yn byw'n barhaol y tu mewn i ffiniau'r Awdurdod hwn, does dim rhaid i'r Cyngor ddod o hyd i le iddo fe / iddi hi mewn ysgol arall.