Datganiad Diogelu Data

Mae'r Cyngor yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau i'w drigolion a chwsmeriaid. Os ydych chi'n byw yn Rhondda Cynon Taf, yn ymweld â'r Fwrdeistref Sirol, yn edrych ar ein gwefan a/neu'n derbyn gwasanaeth gennym ni, mae'n debygol y byddwn ni'n gofyn am wybodaeth gennych chi ac yn prosesu'r wybodaeth yma er mwyn darparu gwasanaethau i chi neu ar eich rhan. Mae llawer o'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu yn seiliedig ar ein dyletswydd statudol i wneud hynny (h.y. mae gofyn cyfreithiol neu reoleiddiol arnon ni i ddarparu'r gwasanaeth), ond mae gyda ni rai gwasanaethau anstatudol hefyd.

Er mwyn cyflawni ein dyletswyddau statudol a gwasanaethau anstatudol, mae angen i ni gasglu eich gwybodaeth bersonol a'i phrosesu. Ni waeth a oes dyletswydd statudol arnon ni i ddarparu gwasanaeth ai peidio, rhaid i ni sicrhau eich bod chi'n effro i'r hyn rydyn ni'n bwriadu ei wneud gydag unrhyw wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi, a gyda phwy y byddwn ni'n ei rhannu.

Mae tryloywder yn bwysig iawn i'r Cyngor, ac rydyn ni'n anelu at fod yn agored ac yn onest ynglyn â sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae'r Cyngor o'r farn y byddwch chi'n fwy hyderus bod eich preifatrwydd wedi'i ddiogelu os byddwch chi'n gwybod o'r dechrau pa wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi, sut y byddwn ni'n ei defnyddio, at ba ddiben, a gyda phwy y byddwn ni'n ei rhannu. Dylai hyn atal unrhyw achosion o bryder annisgwyl.

I weld sut mae'r Cyngor yn defnyddio'ch gwybodaeth, ewch i’r adran Deddf Diogelu Data a Deddf Rhyddid Gwybodaeth ar y wefan www.rctcbc.gov.uk